Y Pwyllgor Menter a Busnes
Enterprise and Business Committee
Julie James AC
|
|
27 Tachwedd 2014 |
|
Annwyl Julie
Sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg
Yn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ddoe ar adroddiad y Pwyllgor ar Sgiliau STEM, dywedasoch y byddai Llywodraeth Cymru yn cymryd rhagor o amser i ystyried ein hargymhellion. Yn fy sylwadau wrth gloi, awgrymais y byddai'n ddefnyddiol cael cynllun gweithredu sy'n nodi mewn ffordd eglur a threfnus sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd â'r agenda bwysig hon yn ei blaen.
Byddai'n ddefnyddiol pe bai'r cynllun yn darlunio’r holl fentrau penodol a gynlluniwyd, yn enwedig y camau gweithredu ar gyfer yr Academi Wyddoniaeth Genedlaethol, ynghyd â llinellau amser i ddangos pryd y caiff y camau hyn eu cyflawni.
Edrychaf ymlaen at eich ymateb.
Yn gywir
William Graham AC
Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes